Beth yw Cam? | What is Cam?

Mae CAM yn gyrchfan aml-gyfrwng sy’n cynnig platfform i gerddoriaeth arbrofol a ffilmiau anturus o Gymru, yn ogystal â rhoi sylw i artistiaid o amgylch y byd sydd o’r un brethyn creadigol. Mae CAM yn gweithredu fel rhaglen radio, yn guraduron ffilmiau a rhaglenni dogfen blaengar, yn gylchgrawn digidol ac yn gyfres o ddigwyddiadau byw - yn hafan i feddwl amgen. Cynhelir gwyl bob 2 flynedd mewn partneriaeth gyda Canolfan y Mileniwm, gyda yr un nesaf ar Ebril 8fed, 2017. Ceir mwy o wybodaeth yma.

Ariannwyd creu platfformau aml-gyfrwng gan CAM a drwy grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg Llywodraeth Cymru. Dylunwyd ac adeiladwyd gan Hobostation a CAM.

CAM is a multi-media platform that is a hub for experimental music and adventurous film-making from Wales, as well as showcasing artists from around the world cut from the same creative cloth. CAM operates as a radio show, innovative film and documentary curators, a digital magazine and a series of live events – a haven for alternative thinking. A festival in partnership with Wales Millennium Centre is held every two years, with the next one on April 8th 2017. More details here.

The creation of CAM’s various media platforms was funded by CAM and the Welsh Government's Welsh Language and Digital Media grant. Designed and built by Hobostation and CAM.


Platfformau | Platforms
man in a space suit

Mae’r sinema yn gasgliad arbennig o ffilmiau amrywiol wedi eu cyflwyno mewn un cyfanwaith ar gael ar wefan CAM. Maent yn cynnwys amryw eang o ffilmiau sy’n ffrwyth llafur rhai o feddyliau mwyaf anturiaethus a dychmygus artistiaid o Gymru a phellach, wedi eu dethol gan CAM a’u cyflwyno mewn rhaglen arbennig. Ymhob tymor bydd casgliad o raglenni dogfen, fideos cerddoriaeth a ffilmiau celf, i gyd yn wahanol ond yn cael eu plethu at ei gilydd gan yr un meddylfryd. Os oes gennych chi syniadau neu ffilmiau arbrofol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen.

The cinema is a special collection of various films presented as one work on the CAM website. They include a wide variety of films that are product of some of the most fertile and adventurous artistic minds from Wales and beyond, selected and curated by CAM and presented as one film. Every season there will be a collection of documentaries, music videos and art films, all different but weaved together by the same artistic outlook. If you have experimental ideas or films, contact us using the details at the bottom of the page

old style typewriter

Mae cylchgrawn digidol dwyieithog CAM yn gyfres o erthyglau gwreiddiol a hen sydd yn trafod, cyflwyno a thaflu golau dros bynciau a themau amgen. Gan ddefnyddio cerddoriaeth arbrofol fel man cychwyn, ond yn ehangu i gynnwys unrhyw hanesion neu ddadansoddiadau o gelf ar yr ymylon, mae’r cylchgrawn tymhorol yn ceisio annog mwy o drafodaeth ymysg y byd arbrofol yng Nghymru a’i gyd-destun mewn tiroedd pellach. Mae’r cylchgrawn yn cynnwys fideos a thraciau gan artistiad sydd o dan sylw ymhob cyfrol. Gellir lawlrwytho y cylchgrawn am ddim ar yr iPad drwy chwilio am ‘Cylchgrawn CAM’ ar siop iTunes. Os ydych yn ymwybodol o unrhyw erthygl neu bwnc diddorol, neu gyda syniadau eich hun, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen.

The bilingual CAM digital magazine is a series of original and archived articles which discuss, present and challenges alternative subjects. Using experimental music as a starting point, but expanding to encompass stories or analysis of outsider art, the seasonal magazine aims to encourage more discussion amongst the experimental world in Wales and it’s context further afield. The magazine contains videos and tracks from artists featured in every edition. You can download the magazine on the iPad by searching for ‘CAM Magazine’ on the iTunes store. If you are aware of any interesting article or topic, or have ideas yourself, please contact us using the details at the bottom of the page.

woman working in a control room

Mae ‘Cam o’r Tywyllwch’ yn raglen radio arbenigol sydd yn chwarae cerddoriaeth amgen orau Cymru a thrysorau coll o barthau brasiog tramor. Rydym hefyd yn chwarae cymysgiadau arbennig wedi eu creu ar ein cyfer, ynghyd â chynnal cyfweliadau gyda nifer o arwyr bywyd amgen Cymru. Gallwch wrando ar bob sioe o’r archif yn yr adran Radio ar y wefan yma. Os ydych yn creu cerddoriaeth arbrofol eich hunan, gyrrwch eich gwaith draw atom gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen

‘Cam o’r Tywyllwch’ is a specialist radio show playing obscure alternative Welsh music Wales and unheard pleasures from further afield. We also play special mixes created for us, as well as interviewing some of Wales’ alternative heroes. You can listen to every show from the archive in the Radio section of this website. If you create experimental music yourself, send us your work, by contacting us using the details at the bottom of the page.


Recordiau | Releases

Mae CAM hefyd yn rhyddhau cyfres o albymau aml-gyfrannog blynyddol sy’n casglu detholiad o’r cerddoriaeth mwyaf diddorol a gynhyrchir yng Nghymru heddiw // CAM also release an annual series of compilation albums collecting a slection of the most interesting music being created in Wales today.

CAM 1 VINYL COVER
CAM 1"

Mae ‘CAM1’, y cyntaf mewn cyfres flynyddol, yn albwm aml-gyfrannog sydd yn gasgliad o rai o’r traciau a chwaraewyd ar y sioe yn ystod y flwyddyn gyntaf (2013). Rhagflas yw o’r gerddoriaeth a gaiff ei wneud yng Nghymru, ac yn gymysgedd o artistiaid newydd fel Location Baked, Llion Swyd a Twlc ynghyd â’r rheiny sydd wedi bod yn creu cerddoriaeth ddiddorol a gwahanol ers blynyddoedd megis Llwybr Llaethog, Lembo a Recordiau. // ‘CAM 1’, the first in an annual series, is a collection of some of the tracks played on the show during the first year. It is a taste of the some of the most interesting music created in Wales today, and is a mix of new artists such as Location Baked, Llion Swyd and Twlc together with those who have been creating experimental music for years such as Llwybr Llaethog, Lembo and Recordiau.